Swim Wales is supporting the launch of StayWiseCymru – www.staywisecymru.co.uk, a free bilingual learning platform aimed at pupils aged 3 -18 years old.

StayWiseCymru brings together educational resources of blue light emergency services and blue light organisations which have been designed to the new curriculum in Wales.

The site offers free lesson plans, videos, and activity sheets to help educators teach young people about potentially lifesaving advice within the curriculum areas of learning and experience.

StayWiseCymru offers resources for households to use.  Teachers can also set work from the site as part of a remote learning plan for parents and carers to follow.

Swim Wales National Learn to Swim Manager Hanna Guise said: “As the National Governing Body for aquatics, we are committed to keeping our communities safe in water. StayWiseCymru is a fantastic new resource for everyone to use. Offering teachers, parents, carers and the emergency services, consistent and effective educational materials to help young people learn about a range of safety topics.”

The National Fire Chiefs Council (NFCC) leads on the partnership behind StayWiseCymru.  Partners include the Royal Life Saving Society (RLSS UK), the Royal National Lifeguard Institute (RNLI), HM Coastguard, the Association of Ambulance Chief Executives, the National Police Chiefs Council, Education, National Resource Wales, and Network Rail.

Chris Bigland, NFCC’s Lead for Education, and StayWiseCymru Programme Director said:

“StayWiseCymru is committed to saving lives through education. By working together with our partners, we have produced a consistent learning resource that educators from across the community can use with confidence, whether they’re teachers, home-schooling, or emergency service staff and volunteers.”

Chair of StayWiseCymru Strategic Group, Peter Greenslade said:

“Working together with other Emergency Services has enabled us to provide effective safety resources for educators across Wales, ensuring that children and young people are receiving preventative messages on how to keep themselves safe.” 

The StayWiseCymru website is easy to use – just select an age group, subject, or theme, and you will find a collection of resources to keep students busy. Find it now at www.staywisecymru.co.uk


Mae Nofio Cyrmu yn cefnogi lansiad StaywiseCymru – www.staywisecymru.co.uk, sef llwyfan dysgu dwyieithog rhad ac am ddim ar gyfer disgyblion 3 -18 oed.

Mae StaywiseCymru yn dwyn ynghyd adnoddau addysgol y gwasanaethau brys golau glas a’r sefydliadau golau glas, a gynlluniwyd i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Mae’r wefan yn cynnig cynlluniau gwersi, fideos, a thaflenni gweithgareddau rhad ac am ddim i helpu addysgwyr i addysgu pobl ifanc am gyngor a allai achub bywydau, a hynny’n unol â meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm.

Mae StaywiseCymru yn cynnig adnoddau i’w defnyddio gartref. Gall athrawon hefyd osod gwaith o’r wefan fel rhan o gynllun dysgu o bell i rieni a gofalwyr ei ddilyn.

Dywedodd National Learn to Swim Manager Hanna Guise: “A ninnau’n y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer gweithgareddau dŵr, rydym wedi ymrwymo i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Mae StaywiseCymru yn adnodd newydd gwych i bawb ei ddefnyddio. Mae’n cynnig deunyddiau addysgol cyson ac effeithiol i athrawon, rhieni, gofalwyr a’r gwasanaethau brys, i helpu pobl ifanc i ddysgu am ystod o bynciau’n ymwneud â diogelwch.”

Mae Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) yn arwain y bartneriaeth y tu ôl i StaywiseCymru.  Mae’r partneriaid yn cynnwys y Gymdeithas Frenhinol Er Achub Bywydau (RLSS UK), Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), Gwylwyr y Glannau EM, y Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlansys, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, Addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Network Rail.

Dywedodd Chris Bigland, Arweinydd Addysg Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC), a Chyfarwyddwr Rhaglen StaywiseCymru:

“Mae StayWiseCymru wedi ymrwymo i achub bywydau trwy addysg. Trwy gydweithio â’n partneriaid, rydym wedi llunio adnodd dysgu cyson y gall addysgwyr o bob rhan o’r gymuned ei ddefnyddio’n hyderus, boed yn athrawon, yn unigolion sy’n addysgu plant gartref, neu’n staff a gwirfoddolwyr y gwasanaethau brys.”

Dywedodd Peter Greenslade, Cadeirydd Grŵp Strategol StayWiseCymru:

“Mae cydweithio â Gwasanaethau Brys eraill wedi ein galluogi i ddarparu adnoddau diogelwch effeithiol i addysgwyr ledled Cymru, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael negeseuon ataliol ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel.” 

Mae gwefan StayWiseCymru yn hawdd ei defnyddio – y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw dewis grŵp oedran, pwnc, neu thema, a byddwch yn gweld casgliad o adnoddau i gadw myfyrwyr yn brysur. Dewch o hyd iddo ‘nawr yn www.staywisecymru.co.uk