Calon Tysul has become the latest provider awarded with Swim Wales Learn to Swim Accreditation.

As a Swim Wales Accredited Provider, the Calon Tysul to Swim Programme has been recognised for providing excellence in their delivery, governance and sustainability. More importantly, Calon Tysul have demonstrated that they are giving their learners the best possible Learn to Swim experience.

Swim Wales Learn to Swim Accreditations are the quality mark for swim schools and operators delivering Learn to Swim Programmes in Wales, and National Learn to Swim Manager Hanna Guise is delighted to see Calon Tysul’s commitment to providing the life enhancing, and potentially lifesaving skills learning to swim provides.

“This is fantastic news for Calon Tysul and their learners,” said Swim Wales National Learn to Swim Manager Hanna Guise. “Becoming a Learn to Swim Accredited Provider demonstrates their commitment to high quality delivery of the Learn to Swim Wales framework.

“Calon Tysul are a fantastic example to other leisure providers, as they continue to strive to provide the best possible learn to swim environment for their customers and workforce.”

Available to all providers across the nation, the two-tiered accreditation has been launched to ensure the best quality learn to swim programmes are operating across Wales.

The standard accreditation will enable providers to demonstrate compliance to industry standards and safeguarding guidelines in relation to learn to swim provision, while a Gold Accredited Provider will be recognised for excellence in governance, sustainability and effectiveness – the award demonstrates the provider is delivering the best possible Learn to Swim experience for all.

Calon Tysul acting Operations Manager Cameron Heal-White said: “Calon Tysul are delighted to become the first facility in the west Wales region to achieve the Swim Wales Learn to Swim Accreditation. 

“As an independent swim school with 300 children attending our lessons every week, we recognise the importance of having safe systems in place.  By completing Swim Wales’ accreditation process we are demonstrating our commitment to the highest levels of service for the children and their families that we serve.”

The Swim Wales Accredited Provider status is available to all organisations in Wales delivering a recognised Learn to Swim Programme.

The Swim Wales Gold Accredited Provider status is available to organisations in Wales delivering at least one element of the Learn to Swim Wales framework.

This includes swim schools, local authority operators, leisure trusts, private leisure providers and multi-site organisations.

For more information and to apply to become a Swim Wales Accredited Provider, operators and swim schools are asked to email [email protected].


Calon Tysul yw’r darparwr diweddaraf i ennill Achrediad Dysgu Nofio, Nofio Cymru.

Fel Darparwr Achrededig Nofio Cymru, mae Rhaglen Nofio Calon Tysul wedi’i chydnabod am ddarparu rhagoriaeth o ran ei darpariaeth, ei llywodraethu a’i chynaliadwyedd. Yn bwysicach fyth, mae Calon Tysul wedi dangos eu bod yn rhoi’r profiad Dysgu Nofio gorau posibl i’w dysgwyr.

Achrediadau Dysgu Nofio, Nofio Cymru yw’r marc ansawdd ar gyfer ysgolion nofio a gweithredwyr sy’n darparu Rhaglenni Dysgu Nofio yng Nghymru, ac mae Rheolwr Cenedlaethol Dysgu Nofio, Hanna Guise, yn falch iawn o weld ymrwymiad Calon Tysul i’r dasg o ddarparu’r sgiliau sy’n gwella bywyd, ac o bosibl sy’n achub bywydau, y mae dysgu nofio yn eu darparu.

“Mae hyn yn newyddion gwych i Calon Tysul a’u dysgwyr,” meddai Hanna Guise, Rheolwr Dysgu Nofio Cenedlaethol Nofio Cymru. “Mae dod yn Ddarparwr Achrededig Dysgu Nofio yn dangos eu hymrwymiad i gynnig darpariaeth o safon uchel mewn perthynas â fframwaith Dysgu Nofio Cymru.

“Mae Met Caerdydd yn esiampl wych i ddarparwyr hamdden eraill, wrth iddyn nhw barhau i ymdrechu i ddarparu’r amgylchedd dysgu nofio gorau posibl i’w cwsmeriaid a’u gweithlu.”

Mae’r achrediad dwy haen hwn, sydd ar gael i bob darparwr ar hyd a lled y wlad, wedi’i lansio er mwyn sicrhau bod rhaglenni dysgu nofio o’r safon gorau yn gweithredu ar draws Cymru gyfan.

Bydd yr achrediad safonol yn galluogi darparwyr i ddangos eu bod yn cydymffurfio â safonau’r diwydiant a’r canllawiau diogelu mewn perthynas â’r ddarpariaeth dysgu nofio, tra bydd Darparwr Achrededig Aur yn cael ei gydnabod am ragoriaeth mewn llywodraethu, cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd – mae’r wobr yn dangos bod y darparwr yn darparu’r profiad Dysgu Nofio gorau posibl i bawb.

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau dros dro Calon Tysul, Cameron Heal-White: “Mae Calon Tysul yn falch iawn o fod y cyfleuster cyntaf yn rhanbarth gorllewin Cymru i ennill Achrediad Dysgu Nofio Nofio, Nofio Cymru.

“Fel ysgol nofio annibynnol gyda 300 o blant yn mynychu ein gwersi bob wythnos, rydym yn cydnabod pwysigrwydd bod â systemau diogel yn eu lle. Drwy gwblhau proses achredu Nofio Cymru rydym yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau’r lefelau uchaf o wasanaeth i’r plant a’u teuluoedd rydym yn eu gwasanaethu.”

Mae statws Darparwr Achrededig Nofio Cymru ar gael i bob sefydliad yng Nghymru sy’n darparu Rhaglen Dysgu Nofio gydnabyddedig.

Mae statws Darparwr Achrededig Aur Nofio Cymru ar gael i sefydliadau yng Nghymru sy’n darparu o leiaf un elfen o fframwaith Dysgu Nofio Cymru.

Mae hyn yn cynnwys ysgolion nofio, gweithredwyr awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau hamdden, darparwyr hamdden preifat a sefydliadau aml-safle.

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais i ddod yn Ddarparwr Achrededig Nofio Cymru, gofynnir i weithredwyr ac ysgolion nofio anfon e-bost at [email protected].