Mae Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer gweithgareddau dŵr yng Nghymru, wedi cryfhau ei berthynas ag un o ymddiriedolaethau hamdden dielw mwyaf blaenllaw’r DU, Freedom Leisure, ar ôl arwyddo cytundeb partneriaeth newydd.

Mae Freedom Leisure yn rhedeg dros 100 o leoliadau hamdden, diwylliannol ac adloniant ledled y DU a’i nod yw gwella bywydau drwy hamdden, ac mae’n bartner gwerthfawr i Nofio Cymru ers nifer o flynyddoedd. Bydd y cytundeb newydd hwn yn parhau i roi’r lefel uchaf o brofiad dysgu nofio i gymunedau ledled Cymru er mwyn sicrhau dyfodol hapusach ac iachach i’n cenedl.

Fel rhan o’r bartneriaeth amlflwyddyn, bydd Nofio Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ar gyfer yr holl ofynion hyfforddi a datblygu campau dŵr ar gyfer Freedom Leisure yng Nghymru.

Daw’r garreg filltir ddiweddaraf hon yn ein partneriaeth ychydig fisoedd ar ôl lansio YMLAEN:Strategaeth Nofio Cymru ar gyfer Gweithgareddau Dŵr yng Nghymru. Nod y strategaeth tair blynedd newydd yw gyrru gweithgareddau dŵr Cymru ymlaen dros y tair blynedd nesaf, gan gefnogi 500,000 o bobl ledled Cymru sy’n cymryd rhan bob wythnos, a pharatoi’r ffordd i grwpiau newydd ymgysylltu â champau dŵr.

Dywedodd Ivan Horsfall Turner, Prif Weithredwr Freedom Leisure: “Fel un o’r ymddiriedolaethau hamdden dielw mwyaf blaenllaw sy’n rhedeg 29 o ganolfannau chwaraeon a hamdden ledled Cymru, rydym yn falch iawn o fod yn meithrin partneriaeth agosach gyda’r sefydliad gweithgareddau dŵr mwyaf blaenllaw yng Nghymru.

“Rydym yn croesawu dros 800,000 o ymweliadau â’n pyllau nofio bob blwyddyn ac rydym yn falch bod dros 12,000 o gyfranogwyr ar ein Rhaglen Dysgu Nofio lwyddiannus. Mae parhau â’n partneriaeth â Nofio Cymru yn ein galluogi i ddarparu profiad gwych i blant ac oedolion, gan gefnogi eu twf yn hyderus gyda sgil bywyd sy’n arwain at fwynhad, diogelwch a hwyl yn y dŵr, yn enwedig yn ein hardaloedd arfordirol fel Abertawe.”

Dywedodd Fergus Feeney, Prif Weithredwr Nofio Cymru:“Mae Nofio Cymru, y Corff Llywodraethol Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer Gweithgareddau Dŵr yng Nghymru, wedi mwynhau perthynas waith gref gyda Freedom Leisure dros nifer o flynyddoedd fel un o ddarparwyr mwyaf profiadol darpariaeth rheolaeth hamdden yn y DU. Mae eu cenhadaeth o wella bywydau drwy hamdden yn cyd-fynd yn ddi-dor â’n gweledigaeth o ‘weithgareddau dŵr i bawb am oes’, ac rydym yn falch o fod yn gweithio mor agos â nhw.

“Mae’r bartneriaeth hon yn sicrhau bod pobl o bob oedran a gallu yng Nghymru sy’n dysgu nofio yn gwneud hyn trwy brofiad dysgu nofio o’r ansawdd uchaf. Mae ein Strategaeth YMLAEN a lansiwyd yn ddiweddar yn nodi ein dymuniad i greu a chynnal partneriaethau cynaliadwy, parhaol i helpu i adeiladu cymunedau lleol hapusach ac iachach yng Nghymru. Mae Freedom Leisure yn rhannu’r nod hwn, ac rydym wrth ein boddau eu bod wedi dewis parhau i alinio â Nofio Cymru.”

Bydd y cytundeb yn cynnwys ystod gynhwysfawr o wasanaethau, gan gynnwys cefnogi cynlluniau twf athrawon nofio Freedom Leisure a sicrhau eu bod yn cynnal gwersi o ansawdd uchel trwy archwiliadau rheolaidd, gan alluogi Freedom Leisure i ddatblygu’r rhaglen Dysgu Nofio ymhellach. Bydd Nofio Cymru hefyd yn cyflenwi’r holl wobrau Dysgu Nofio, gan sicrhau bod cyfranogwyr yn cael cydnabyddiaeth am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni.