Sut i redeg clwb
Cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i redeg clwb llwyddiannus YMA
Cadeirydd y Clwb
Mae Cadeirydd yn goruchwylio rhediad y clwb a’r swyddogaethau cysylltiedig. Mae angen sgiliau arwain cadarn a’r gallu i ddatblygu clwb unedig cadarn. Mae profiad o sefydlu a gweithio o fewn cynlluniau ac amcanion strategol yn ddymunol.
DownloadTrysorydd y Clwb
Mae Trysorydd y clwb yn gyfrifol am gynhyrchu a rheoli cyfrifon ac arian y clwb, a dylai adrodd i Gadeirydd y Clwb. Bydd y swyddogaeth hon yn cynnwys bod yn gyfrifol am holl incwm a gwariant y clwb.
DownloadSwyddog Lles
Mae swyddogaeth y Swyddog Lles yn hanfodol i ddarparu ‘pwynt cyswllt cyntaf’ i blant ac oedolion yn y clwb sydd â phryder ynglŷn â diogelwch plant.
DownloadYsgrifennydd y Clwb
Ysgrifennydd y Clwb sy’n ymdrin yn gyntaf â gohebiaeth a chyfathrebu, ac mae’n swydd allweddol i sicrhau bod clwb yn rhedeg yn llyfn. Mae Ysgrifennydd y Clwb hefyd yn darparu cyswllt rhwng aelodau, darpar aelodau a sefydliadau allanol, e.e. gweithredwyr pyllau, yr awdurdod lleol.
DownloadAelodau'r Pwyllgor
Swyddogaeth aelod o’r pwyllgor yw meithrin perthynas effeithiol ag aelodau’r Pwyllgor, gan sicrhau bod pob un yn ymroddedig i ddiben cyffredin, meithrin perthynas effeithiol â phartneriaid allanol yn ôl yr hyn sy’n ofynnol gan y Pwyllgor, a chefnogi ac arwain y Pwyllgor i fanteisio i'r eithaf ar ei adnoddau a’i alluoedd.
Download