To enlarge the font, hold down the 'Ctrl' and '+' buttons on a PC or 'Cmd' and '+' buttons on a Mac.

Close
Jazz Carlin
National Squad - Athlete

Jazz Carlin

Bywgraffiad

Mae Jazz Carlin wedi ennill medalau ar bob lefel mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Roedd Jazz mewn cyflwr arbennig yn 2015, gan gipio tri theitl Cartref ym Mhencampwriaethau Prydain yn Llundain, sef nofio dull rhydd 200m, 400, a 800m. Aeth wedyn i Rwsia i gymryd rhan ym Mhencampwriaethau’r Byd am y bedwaredd gwaith, lle yr enillodd fedal efydd yn y ras 800m dull rhydd.

Roedd ar ei gorau yn 2014, gan ennill teitlau’r Gymanwlad, Ewrop a Phrydain dros 800m yn y dull rhydd yn ogystal ag ennill medal aur yn Ewrop a Phrydain, ac arian yng Ngemau’r Gymanwlad yn y ras 400m dull rhydd. Llwyddodd i dorri ei record Cymru ei hun dros 200m, 400m a 800m dull rhydd yn ystod y tymor.

2013 oedd y tymor y daeth Carlin yn ôl i’w safon orau, gan ennill tair gwobr aur dros 400m, 800m a 1500m dull rhydd ym Mhencampwriaeth Nofio British Gas 2013 ac yna gorffen yn y pedwerydd safle yn y ras 400m dull rhydd ym Mhencampwriaethau’r Byd yn ninas Barcelona yn 2013.

Gwnaeth y cyfuniad o byliau niferus o donsilitis a thwymyn y chwarennau amharu ar ei datblygiad yn ystod tymhorau 2011 a 2012, gan ei hatal rhag cymhwyso ar gyfer y gemau Olympaidd am y tro cyntaf.

Profodd Jazz nad nofiwr cyfnewid yn unig mohoni pan enillodd ddwy fedal nofio yn yng Ngemau’r Gymanwlad, sef medal  arian yn y ras 200m dull rhydd ac efydd yn y ras 400m dull rhydd yn ninas Delhi yn 2010. Hi oedd y nofwraig gyntaf o Gymru ers 80 o flynyddoedd i wneud hynny.

Daeth Carlin i sylw rhyngwladol yn 2009 pan ddewiswyd hi ar gyfer tîm Pencampwriaeth y Byd ar ôl ennill dwy fedal efydd ac un arian ym Mhencampwriaethau Nofio Prydain yn Sheffield. Gwnaeth y nofwraig o Gymru ei marc ar unwaith ar y lefel uchaf, gan helpu pedwarawd Cyfnewid Dull Rhydd 4x200m Prydain i ennill medal efydd yn Rhufain.

Cyflawniadau

  • Cafodd ei derbyn i Oriel Anfarwolion Nofio Cymru yn 2014

Pencampwriaethau’r Byd

  • 800m dull rhydd 2015 - Kazan 8:18.15 Efydd
  • 4x200m cyfnewid dull rhydd 2009 - Rhufain 7:45.51 Efydd

Gemau’r Gymanwlad

  • 400m dull rhydd 2014 - Glasgow 4:05.16 Arian
  • 800m dull rhydd 2014 - Glasgow 8:18.11 Aur
  • 200m dull rhydd 2010 - Delhi 1:58.29 Arian
  • 400m dull rhydd 2010 - Delhi 4:08.22 Efydd

Pencampwriaethau Ewrop

  • 400m dull rhydd 2014 - Berlin 4:03.24 Aur
  • 800m dull rhydd 2014 - Berlin 8:15.54 Aur
  • 4x200m cyfnewid dull rhydd 2010 - Budapest 7:55.29 Efydd
  • 800m dull rhydd 2016 – Llundain Arian
  • 400m dull rhydd 2016 – Llundain Arian