Diogelwch Dwr

Diogelwch Dŵr

Mae dŵr wrth wraidd bywyd yng Nghymru. Gyda 1,680 milltir o arfordir, ynghyd â nifer o afonydd a llynnoedd mewndirol, mae mwynhau’r amgylcheddau hyn yn ddiogel yn hanfodol i bawb. Mae hyn yr un mor bwysig mewn pyllau nofio a champau dŵr, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ffordd egnïol ac iach o fyw. Yn Nofio Cymru, rydym wedi ymrwymo i helpu pobl o bob oed a gallu i ddatblygu’r wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i gadw’n ddiogel yn y dŵr ac o’i amgylch.

Dyna pam rydym wedi creu cyfres o bosteri deniadol i gefnogi hyrwyddo diogelwch dŵr. Mae’r rhain yn cynnwys y Cod Diogelwch Dŵr a Dyfarniadau Water Competence Cymru. Gyda’i gilydd, mae’r adnoddau hyn wedi’u cynllunio i helpu darparwyr i addysgu dysgwyr a theuluoedd ar sut i gadw’n ddiogel mewn neu ar ddŵr ac o amgylch dŵr.


Dyfarniadau Water Competence Cymru

Mae Dyfarniadau Water Competence Cymru yn rhan allweddol o ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i fod yn ddiogel o amgylch dŵr. Maent yn gweithio ochr yn ochr â Fframwaith Dysgu Nofio Cymru, gan helpu dysgwyr i gyflawni cynnydd o ran hyder a gallu.

Y dyfarniadau:

– Cydweddu â Thonnau Dysgu Nofio Cymru a Nofio Ysgol 

– Rhoi arweiniad ar bryd y dylai dysgwyr gyflawni canlyniadau penodol

– Caniatáu hyblygrwydd i hyfforddwyr gyflwyno sgiliau’n gynt lle bo’n briodol

Y Cod Diogelwch Dŵr


Adnoddau sydd ar gael

📜 Posteri
 

🛟 Deunyddiau diogelwch dŵr 
 


Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu!

Darganfyddwch Fframwaith Dysgu Nofio Nofio Cymru

Partneriaid Allweddol