Mae’r Cod Diogelwch Dŵr yn rhoi gwybodaeth hanfodol a hawdd i’w chofio i helpu pobl i gynllunio ar gyfer eu gweithgaredd a deall beth ddylen nhw ei wneud mewn argyfwng.


1. Stopiwch a meddyliwch – Nofiwch mewn Lle Diogel Bob Amser
Mae’n bwysig i nofwyr wybod beth yw’r peryglon wrth nofio yn yr awyr agored ac yn ddelfrydol nofio ar draeth gydag achubwyr bywyd, mewn sesiwn wedi’i drefnu neu leoliad dan oruchwyliaeth.
Mae yna lawer o beryglon gyda dŵr, a all gynnwys:
– Dŵr oer, mae llawer o bobl sy’n boddi yn gwneud hynny bron yn syth wrth fynd i mewn i’r dŵr oherwydd sioc dŵr oer, yn fuan wedyn fe fyddan nhw’n Methu â Nofio wrth i’r nerfau a’r cyhyrau fynd yn rhy oer i weithio’n effeithiol
– Ceryntau cudd o dan y dŵr
– Methu gweld beth yw dyfnder y dŵr oherwydd nad yw’n glir
– Ansawdd gwael, sy’n arwain at salwch
– Arwynebau anwastad a llithrig sy’n eu gwneud yn anniogel i gerdded arnynt
– Sbwriel wedi’i daflu a all achosi niwed
2. Arhoswch gyda’ch gilydd – Nofiwch gydag oedolyn bob amser
Wrth nofio yn yr awyr agored, mae’n rhaid i chi bob amser aros gyda’ch gilydd. Gyda phlant au, cadwch nhw o fewn cyrraedd braich pan fyddwch chi mewn neu ar ddŵr neu o gwmpas y dŵr.
– Peidiwch byth â mynd ar eich pen eich hun!
– Dywedwch wrth aelod o’r teulu ble rydych chi’n mynd a phryd y byddwch yn ôl.
– Dylai nofwyr bob amser nofio gydag oedolyn i sicrhau eu diogelwch.
– Drwy gael oedolyn abl i’w goruchwylio, bydd gan nofwyr bâr ychwanegol o lygaid yn cadw llygad ar eu diogelwch ac am beryglon posibl.
– Gwnewch yn siŵr bod yr offer cywir gennych ar gyfer eich gweithgaredd, er enghraifft het lachar a fflôt tynnu ar gyfer nofio awyr agored neu gymhorthion arnofio a’r tennyn cywir wrth badlfyrddio, mae chwiban a ffôn symudol mewn bag gwrth-ddŵr hefyd yn helpu.
3. Arnofiwch
If you fall into the water unexpectedly – float on your back until you can control your breathing. Then, either call for help or swim to safety.
4. Call 999
Os ydych chi’n syrthio i’r dŵr yn annisgwyl – arnofiwch ar eich cefn nes y gallwch reoli eich anadlu. Yna, naill ai galwch am help neu nofiwch i ddiogelwch.
Os ydych chi’n gweld rhywun mewn trafferthion, mae’n rhaid i chi ddweud wrth rywun neu fynd at y fôn agosaf a galw 999. Yna gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ar safleoedd dŵr mewndirol a Gwylwyr y Glannau ar y traeth. Os ydych chi mewn pwll nofio, rhaid i chi ddweud wrth yr achubwr bywyd. Taflwch rywbeth sy’n arnofio i’r person ddal gafael arno ond peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr i helpu.
Mae’n bwysig dysgu pobl sy’n dysgu nofio sut i gadw’n ddiogel wrth nofio mewn pwll nofio ac wrth nofio yn yr awyr agored.

Cysylltwch
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynnwys, mae croeso i chi anfon e-bost at: