
Mae gan nofio a gweithgareddau diogelwch dŵr
rôl unigryw yn y cwricwlwm addysg gorfforol - mae'n sgil bywyd ac
yn sgil achub bywyd.
Mae nofio hefyd yn ffurf effeithiol iawn o ymarfer
corff a gall chwarae rhan bwysig iawn mewn sefydlu a chynnal ffordd
o fyw iach. Mae manteision ehangach i ddysgu diogelwch dŵr, codi
ymwybyddiaeth o risgiau a helpu plant i gydnabod peryglon posibl
wrth chwarae ger neu mewn dŵr agored.