
Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru yn mynychu
gwersi nofio a ddarperir mewn pyllau nofio lleol, ond yn aml nid yw
hyn yn ddigon i sicrhau bod plant naill ai'n nofwyr cymwys neu
hyderus.
Gallwch helpu eich plant i ddatblygu ymwybyddiaeth
acwatig cynnar trwy fynd â nhw i nofio yn rheolaidd o oed ifanc.
Gwnewch y gorau o'r sesiynau nofio am ddim sydd ar gael i blant dan
16 oed ledled Cymru. Trwy sicrhau bod eich plant yn dysgu nofio,
rydych yn eu darparu â:
- mynediad i weithgareddau dŵr eraill fel hwylio, syrffio neu
ganŵio;
- cyfle i ymuno â chlwb a chymryd rhan mewn cystadlaethau;
- cyfle i gadw'n iach trwy ymarfer corff rheolaidd;
- ffordd arbennig o wneud ffrindiau newydd trwy weithgaredd
hwyliog.