To enlarge the font, hold down the 'Ctrl' and '+' buttons on a PC or 'Cmd' and '+' buttons on a Mac.

Close
Masters

Meistri

Nofio i oedolion sy’n 18 a throsodd yw nofio Meistri. Mae’n cwmpasu popeth o nofio hamdden er mwyn gwella ffitrwydd i nofio cystadleuol wedi’i drefnu.

Nofio Meistri

Mae Nofio Cymru am hyrwyddo, cefnogi a chynyddu nifer y clybiau Meistri yng Nghymru.

Mater i chi yw penderfynu i ba raddau yr ydych am fod yn rhan o nofio Meistri.

I ba raddau bynnag y cymerwch ran, dylech weld eich iechyd yn gwella, a chael cyfle i wella eich ffitrwydd a chadw’n heini, a meithrin cyfeillgarwch da ymhlith nofwyr.

Mae nofio Meistri yn ffordd wych o gymdeithasu a nofio gydag eraill, a mwynhau cael eich hyfforddi’n rhan o grŵp os ydych yn dymuno hynny. Bydd cyfle hyd yn oed i roi cynnig ar nofio dŵr agored neu bolo dŵr.

P’un a ydych yn nofio o ran hwyl neu er mwyn cystadlu, clybiau Meistri yw’r lle i fynd. Does dim rhaid i chi fod wedi nofio’n gystadleuol o’r blaen i fod yn nofiwr Meistr. Waeth beth sy’n eich ysgogi, mewn sesiynau Meistri cewch wella eich strôc a’ch techneg anadlu, gwella eich ffitrwydd, a chael ymarfer corff da. Gallwch ddechrau beth bynnag fo’ch oedran. Mae nofio’n gamp am oes!

Cynhelir cystadlaethau Meistri rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhesymau da dros gymryd rhan, ond does dim pwysau i gystadlu os nad yw o ddiddordeb i chi. Os hoffech wybod rhagor neu os hoffech drafod dechrau eich clwb meistri eich hun, neu greu adran meistri yn eich clwb, anfonwch neges e-bost YMA

Techneg a Chyngor - nofio ar y cefn

I sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich amser yn y pwll, dyma rai awgrymiadau i wella eich techneg nofio ar y cefn.

Download

Techneg a Chyngor - nofio yn eich blaen

I sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich amser yn y pwll, dyma rai awgrymiadau i wella eich techneg nofio yn eich blaen.

Download

Techneg a Chyngor - nofio ar y frest

I sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich amser yn y pwll, dyma rai awgrymiadau i wella eich techneg nofio ar y frest.

Download

Techneg a Chyngor - nofio pili-pala

I sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich amser yn y pwll, dyma rai awgrymiadau i wella eich techneg nofio pili-pala.

Download

Nofio Newyddion

  • Big Bala Bash - 7th -8th July 2018

    20 Ebr 2018

    Big Bala Bash - 7th -8th July 2018

    Big Bala Bash - 7th -8th July 2018
    Mwy

    Can you beat Bala? Join Swim Wales, Welsh Triathlon, and Gemau Cymru for a sport extravaganza over 2 days!

    Categori
    Swimming
    Rhanbarth
    National
  • Level 2 Swim Teachers Needed

    19 Ebr 2018

    Level 2 Swim Teachers Needed

    Level 2 Swim Teachers Needed
    Mwy

    We are seeking Level 2 Swim Teachers local to the venue with experience of delivering personal survival and water safety lessons. Outdoor water instructors with an equivalent Level 2 Teaching or Coaching Qualification will also be considered, for example: SLSGB Level 2 Coach Award, ISA Level 1 Surf Coach

    Categori
    Swimming
    Rhanbarth
    National
  • Level 1 Open Water Course

    17 Ebr 2018

    Level 1 Open Water Course

    Level 1 Open Water Course
    Mwy

    Join the Open Water technical team ...

    Categori
    Swimming
    Rhanbarth
    National
  • Team Wales Commonwealth Swimming Success

    12 Ebr 2018

    Team Wales Commonwealth Swimming Success

    Team Wales Commonwealth Swimming Success
    Mwy

    Missed out on the action of the Gold Coast Commonwealth Games Swimming? Then read our round up of all the excitement that took place over the 6 days of competition!

    Categori
    Swimming
    Rhanbarth
    International
  • Long Course Championships 2018 Facebook Live Stream Success

    10 Ebr 2018

    Long Course Championships 2018 Facebook Live Stream Success

    Long Course Championships 2018 Facebook Live Stream Success
    Mwy

    Find out more about the success of our Facebook Live stream at the Long Course Championships 2018.

    Categori
    Swimming
    Rhanbarth
    International